Menywod Cymru Mewn STEM
  • Cartref
  • Rhwydwaith Cydweithredol
  • Mentrau STEM
    • Ar gyfer ysgolion
    • Ar gyfer diwydiant
    • Ar gyfer Prifysgolion a Cholegau
  • Cefnogaeth i Gyflogwyr
    • Prifysgolion a Cholegau
    • Diwydiant
    • Coetsio
  • Menywod Ysbrydoledig
    • Mewn gwyddoniaeth
    • Mewn Technoleg
    • Mewn Peirianneg
    • Mewn mathemateg
    • Mewn gwyddorau meddygol ac iechyd
  • Digwyddiadau
  • Cyswllt

 Digwyddiadau

Picture
 Seiberddiogelwch a Gwyddor Data/ Deallusrwydd Artiffisial | 25 Tachwedd 2019

Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir cryf yn gweithio gyda chyflogwyr i gyflwyno amrediad eang o raglenni hyblyg ar lefel uwch sy'n integreiddio profiad byd go iawn gyda dysgu seiliedig ar waith, yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein.
Mewn awyrgylch busnes esblygol, mae cyflogwyr bellach yn archwilio ymagweddau arloesol at adnabod a mynd i'r afael â heriau ar draws eu gweithlu mewn perthynas ag olyniaeth talent, uwchsgilio staff ac anghenion y busnes yn y dyfodol.
Yn ychwanegol at y Prentisiaethau Gradd a gynigir yn/a gymeradwyir gan PDC, rydym wrthi'n ymgynghori â chyflogwyr mewn perthynas â chyfleoedd pellach i gyflwyno Prentisiaethau Gradd yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys Prentisiaethau Gradd Digidol mewn meysydd arbenigol megis 'Seiberddiogelwch' a 'Gwyddor Data/Deallusrwydd Artiffisial'.


Cydweithio â DiwydiantHoffem eich gwahodd i fynychu digwyddiad i'n helpu i lunio ein darpariaeth o Brentisiaethau Gradd mewn dau faes allweddol - Seiberddiogelwch a Gwyddor Data/Deallusrwydd Artiffisial. Bydd yna gyfle i ddarganfod mwy am Brentisiaethau Gradd a rhaglenni eraill seiliedig ar waith, i ddylanwadu ar ddatblygiad ein rhaglenni Prentisiaethau Gradd ac i ddarganfod sut mae ein profiad yn darparu llwybrau profedig i fanteisio ar y cyfle hwn yn y dyfodol.


Bydd y digwyddiad ymdrin â'r canlynol:
  • Trosolwg a Chyflwyniad i'r Fframwaith Prentisiaethau Gradd (Cymru)
  • Croeso a Chyflwyniad i Bolisi / Tirwedd Ariannu Cymru
  • Trosolwg o'r ddarpariaeth pynciau ac arbenigedd cyfredol
  • Astudiaeth achos: Bydd hwn yn edrych ar sut weithiodd y Brifysgol gyda diwydiant i ddatblygu darpariaeth hyblyg gyda'r cyflogwr yn ganolog i hyn ym maes Peirianneg Meddalwedd, a arweiniodd at un o Brentisiaethau Gradd cyntaf PDC - BSc Datrysiadau Digidol a Thechnoleg.
  • Gweithdai yn canolbwyntio ar alw a blaenoriaethau mewn perthynas â meysydd Seiberddiogelwch a Gwyddor Data/Deallusrwydd Artiffisial.

Ar ôl y digwyddiad hwn, fe gynhelir cyfarfod grŵp gorchwyl a gorffen i bennu camau nesaf elfennau penodol gyda chyflogwyr sydd â diddordeb ac i adeiladu darpariaeth mewn meysydd allweddol i gyflwyno'r cyfleoedd hyn.

Picture
Peirianneg Rheilffyrdd a Modurol | 20 Tachwedd 2019

Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir cryf yn gweithio gyda chyflogwyr i gyflwyno amrediad eang o raglenni hyblyg ar lefel uwch sy'n integreiddio profiad byd go iawn gyda dysgu seiliedig ar waith, yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein.
Mewn awyrgylch busnes esblygol, mae cyflogwyr bellach yn archwilio ymagweddau arloesol at adnabod a mynd i'r afael â heriau ar draws eu gweithlu mewn perthynas ag olyniaeth talent, uwchsgilio staff ac anghenion y busnes yn y dyfodol.
Yn ychwanegol at y Prentisiaethau Gradd a gynigir yn/a gymeradwyir gan PDC, rydym wrthi'n ymgynghori â chyflogwyr mewn perthynas â chyfleoedd pellach i gyflwyno Prentisiaethau Gradd yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys Prentisiaethau Gradd Peirianneg mewn meysydd arbenigol megis 'Rheilffyrdd' a 'Modurol'.


Cydweithio â DiwydiantHoffem eich gwahodd i fynychu digwyddiad i'n helpu i lunio ein darpariaeth o Brentisiaethau Gradd ym meysydd Rheilffyrdd a Modurol. Bydd yna gyfle i ddarganfod mwy am Brentisiaethau Gradd a rhaglenni eraill seiliedig ar waith, i ddylanwadu ar ddatblygiad ein rhaglenni Prentisiaethau Gradd ac i ddarganfod sut mae ein profiad yn darparu llwybrau profedig i fanteisio ar y cyfle hwn yn y dyfodol.


Bydd y digwyddiad ymdrin â'r canlynol:
  • Trosolwg a Chyflwyniad i'r Fframwaith Prentisiaethau Gradd (Cymru)
  • Croeso a Chyflwyniad i Bolisi / Tirwedd Ariannu Cymru
  • Trosolwg o'r ddarpariaeth pynciau ac arbenigedd cyfredol
  • Astudiaeth achos: Bydd hwn yn edrych ar esiampl o sut weithiodd y Brifysgol gyda diwydiant i ddatblygu darpariaeth hyblyg gyda'r cyflogwr yn ganolog i hyn ym maes Technolegau Lled-ddargludyddion, a arweiniodd at un o'n Prentisiaethau Gradd Peirianneg cyntaf ar y fframwaith - BSc Technolegau Lled-ddargludyddion.
  • Gweithdai yn canolbwyntio ar alw a blaenoriaethau mewn perthynas â meysydd Rheilffyrdd a Modurol


Ar ôl y digwyddiad hwn, fe gynhelir cyfarfod grŵp gorchwyl a gorffen i bennu camau nesaf elfennau penodol gyda chyflogwyr sydd â diddordeb ac i adeiladu darpariaeth mewn meysydd allweddol i gyflwyno'r cyfleoedd hyn.

Picture
Picture
 Bydd Symposiwm Agoriadol: Menywod Cymru ym meysydd STEM yn mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal menywod ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Bydd yn dod â'r bobl hynny sy'n gallu rhoi newidiadau ar waith yn y sector at ei gilydd, ynghyd â'r sawl sy'n gweithio i greu awyrgylch cadarnhaol lle mae menywod a merched yn cael eu dathlu a'u cefnogi trwy gydol eu gyrfaoedd.
Bydd amrediad o siaradwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a Dr Tara Shine, gwyddonydd amgylcheddol.
Bydd detholiad o weithdai hefyd yn cael eu cynnal yn y prynhawn, gan fynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:
• Beth ellir ei wneud yn y dyfodol?
• Sut gallwn ni gefnogi menywod sy'n dychwelyd i STEM?
• Sut gallwn ni ennyn diddordeb merched yn STEM o oedran ifanc?
• Sut gall dynion weithredu fel cynghreiriaid i fenywod yn y gweithle?
Bydd y digwyddiad hefyd yn nodi lansiad platfform mentora menywod ym meysydd STEM, a fydd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr rannu eu profiadau o weithio ym meysydd STEM ac i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o fenywod i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain.
Cynhelir y digwyddiad yn gydamserol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.


Picture

Picture
Mae'r Dr Tara Shine yn frwdfrydig dros newid y sgwrs ar newid yn yr hinsawdd a chynaladwyedd. Mae hi'n wyddonydd amgylcheddol gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio fel cynghorydd i lywodraethau ac arweinwyr y byd, yn ogystal â fel trafodwr ac ymchwilydd. Mae Tara nawr yn cymryd y profiad hwn o lunio polisi ar lefel fyd-eang i yrru newid yn ei chymuned a gwlad ei hun. Yn 2018, aeth hi ati i gyd-sefydlu'r fenter gymdeithasol Change by Degrees a'r fenter gymunedol Plastic Free Kinsale Mae hi'n defnyddio'r ddau blatfform hyn i hysbysu a grymuso pobl i fyw yn fwy cynaliadwy adref ac yn y gwaith. Mae Tara hefyd yn cyflwyno rhaglenni dogfen bywyd gwyllt a natur ar gyfer RTE a'r BBC ac yn nofio yn y môr unrhyw gyfle posib. Hi oedd y fenyw gyntaf yn byw yn Iwerddon i gymryd rhan yn Homeward Bound, rhaglen arweinyddiaeth fyd-eang ar gyfer menywod ym maes gwyddoniaeth, a oedd yn cynnwys cyrch i Antarctica ym mis Ionawr 2019.
Prif Anerchiad: ‘Mother Nature Needs her Daughters’
 
Wrth feddwl am heriau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, bydd angen i ddynoliaeth ddefnyddio sgiliau a doniau dynion a menywod, hen ac ifanc, i arloesi a dod o hyd i ddatrysiadau i amddiffyn pobl a’r blaned. Yn y sgwrs hon, bydd Dr Shine yn defnyddio ei phrofiadau yn Homeward Bound, y rhaglen arweinyddiaeth fyd-eang ar gyfer menywod ym maes STEM, a’i thaith i Antarctica ym mis Ionawr 2019, i daflu goleuni ar y rôl gall menywod ei chwarae wrth ddatblygu model newydd o arwain. Bydd angen i arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol fod yn gydweithredol, yn garedig ac yn ddewr. Bydd eu harddull arwain yn galonogol ac yn rymusol yn hytrach na phwerus a gormesol. Bydd Dr Shine yn tynnu ar y tebygrwydd rhwng y byd naturiol a rôl dynion a menywod yn gweithio ym maes STEM er mwyn dadorchuddio rhwystrau ac awgrymu datrysiadau ar gyfer planed fwy cynaliadwy.

Picture
  • Cartref
  • Rhwydwaith Cydweithredol
  • Mentrau STEM
    • Ar gyfer ysgolion
    • Ar gyfer diwydiant
    • Ar gyfer Prifysgolion a Cholegau
  • Cefnogaeth i Gyflogwyr
    • Prifysgolion a Cholegau
    • Diwydiant
    • Coetsio
  • Menywod Ysbrydoledig
    • Mewn gwyddoniaeth
    • Mewn Technoleg
    • Mewn Peirianneg
    • Mewn mathemateg
    • Mewn gwyddorau meddygol ac iechyd
  • Digwyddiadau
  • Cyswllt