Mae The Institute of Physics yn elusen wyddonol gyda’r nod o gynyddu’r ymarfer, dealltwriaeth a defnydd o ffiseg. Mae ganddo dros 36,000 o aelodau ac mae’n gyfathrebwr blaenllaw o wyddoniaeth yn ymwneud â ffiseg i bob cynulleidfa, o arbenigwyr i’r llywodraeth a’r cyhoedd yn gyffredinol.
|
NESTA yw’r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau – corff annibynnol gyda’r nod o wneud y DU yn fwy arloesol. |
Nod Girls Who Code yw cau’r bwlch rhwng y rhywiau ym maes technoleg ac i newid y ddelwedd o ran golwg a rôl rhaglennwr.
|
Mae First Hydro Company yn gyfrifol am reoli a gweithredu gweithfeydd storio pwmpiedig yn Ninorwig a Ffestiniog yn ardal Eryri o Gymru.
|
Mae The WISE campaign yn cydweithio gyda diwydiant ac addysg i annog merched o oedran ysgol i astudio cyrsiau STEM neu rhai ym maes adeiladu, ac i symud i gyrsiau cysylltiedig.
|
Mae The National Digital Exploitation Centre yn brosiect a ariannwyd ac a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Thales a Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnig hyfforddiant mewn arferion digidol, seiber-ddiogelwch ac ymchwil. Caiff ei Ganolfan Addysg Ddigidol ei harwain gan Brifysgol De Cymru sy’n caniatáu i unigolion, ysgolion a busnesau bach ffynnu mewn economi ddigidol.
|
|
Mae Women in Tech Cymru yn rhwydwaith sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi dysgu, arfer gorau ac arloesedd ar gyfer menywod sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru. |