Menywod Cymru Mewn STEM
  • Cymorth STEM
    • Cymorth
    • Mentrau STEM >
      • Ar gyfer ysgolion
      • Ar gyfer Prifysgolion a Cholegau
      • Ar gyfer diwydiant
    • Menywod Ysbrydoledig
  • Digwyddiadau
  • Cyswllt
  • Podlediad
  • ENGLISH

CYMORTH  STEM

RHWYDWAITH  MENYWOD  CYMRU  MEWN  STEM

Lansiwyd y rhwydwaith yn swyddogol ar 16 Medi 2019. Daeth cyfranogwyr ynghyd i drafod sut y gallwn gynyddu nifer y menywod a merched sy'n cymryd rhan weithredol mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth. Fel y dengys ymchwil gan Chwarae Teg, byddai sicrhau cydraddoldeb rhywiol llawn yng Nghymru yn cynyddu economi Cymru £13.6 biliwn erbyn 2028.

Rydym yn gweithio i ddarparu cefnogaeth bellach, digwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio i hwyluso cyfranogiad menywod ym meysydd STEM ar bob cam o’u gyrfa, o ddysgwyr ysgol i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ac arweinwyr ymchwil. Rydym hefyd yn cynnal canolfan rhanbarthol Cymru ar gyfer ymgyrch WISE.

Ymunwch â'n rhwydwaith cydweithredol ar Facebook. Mae'n gymuned ar-lein i fenywod a dynion gysylltu, cydweithredu a chefnogi ei gilydd. Ein nod yw tynnu sylw at yr heriau sy'n gysylltiedig â rhyw sy'n rhwystr i bobl i gyflawni uchelgeisiau proffesiynol ym meysydd STEM. Bydd newyddion am ddigwyddiadau a chyfleoedd sydd ar ddod hefyd yn cael eu rhannu gyda’r grŵp.


Cysylltu â ni ar…
Twitter: @WalesWomenSTEM
LinkedIn: Wales Women in STEM

MENTRAU  STEM

Rydym wedi coladu'r holl fentrau STEM yng Nghymru ar gyfer ysgolion, prifysgolion, colegau a diwydiant.
Picture

YSGOLION

Picture

PRIFYSGOLION A CHOLEGAU ​

Picture

DIWYDIANT

CYMORTH

Mae Menywod Cymru ym meysydd STEM yn gweithio gyda’r partneriaid AU Ymlaen a Chwarae Teg i ddarparu cefnogaeth i brifysgolion, colegau a chyflogwyr. Mae rhaglenni hyfforddi a datblygu gyrfa ar gael i helpu cyfranogwyr i ennill y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu eu gyrfa yn effeithiol.
CYMORTH

MENYWOD  YSBRYDOLEDIG ​

Yn yr adran hon rydym yn cynnwys menywod ysbrydoledig sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg, gwyddorau meddygol ac iechyd yng Nghymru.
MWY O STRAEON YSBRYDOLEDIG

DR PENNY HOLBORN - MATHEMATEG

Mae Dr Penny Holborn yn Uwch Ddarlithydd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol De Cymru. Yma mae'n sôn am y menywod sydd wedi ei chefnogi a pham mae cynyddu nifer y menywod a'r merched sy'n cymryd rhan mewn mathemateg yn bwysig.

​SUE QUIRK - TECHNOLEG

Mae Sue Quirk, athrawes Dylunio a Thechnoleg, yn sôn am gynnwys dysgwyr ifanc mewn pynciau STEM yn yr ysgol.

​YVONNE MURPHY - PEIRIANNEG

Yvonne Murphy, Uwch Beiriannydd Sifil ac Arweinydd Dylunio, Mott Macdonald, yn siarad am ei gyrfa a'i rôl fel Cadeirydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE). 
Picture
  • Cymorth STEM
    • Cymorth
    • Mentrau STEM >
      • Ar gyfer ysgolion
      • Ar gyfer Prifysgolion a Cholegau
      • Ar gyfer diwydiant
    • Menywod Ysbrydoledig
  • Digwyddiadau
  • Cyswllt
  • Podlediad
  • ENGLISH