CROESO I MENYWOD CYMRU MEWN STEM
Nod Menywod Cymru ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yw ceisio amlygu a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod sy’n gweithio yn y meysydd hyn. Mae’n dod â’r bobl hynny sy’n gweithio i roi newid ar waith yn y sector ynghyd, a’r sawl sy’n gweithio i greu awyrgylch cadarnhaol lle mae menywod a merched yn gallu ceisio ffynnu yn eu gyrfaoedd.
Rydym yn darparu cefnogaeth, digwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio i hwyluso cyfranogiad menywod ym meysydd STEM ar bob cam o’u gyrfa, o ddysgwyr ysgol i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ac arweinwyr ymchwil.
Ymunwch â grŵp Facebook Menywod Cymru ym meysydd STEM. Pwrpas y grŵp hwn yw dwyn ynghyd y rhai sy'n gweithredu newid o fewn y sector, a'r rhai sy'n gweithio i greu amgylchedd cadarnhaol lle gall menywod a merched ffynnu trwy gydol eu gyrfaoedd.

MENTRAU STEM
Rydym wedi coladu'r holl fentrau STEM yng Nghymru ar gyfer ysgolion, prifysgolion, colegau a diwydiant.
CYMORTH
Mae Menywod Cymru ym meysydd STEM yn gweithio gyda’r partneriaid AU Ymlaen a Chwarae Teg i ddarparu cefnogaeth i brifysgolion, colegau a chyflogwyr. Mae rhaglenni hyfforddi a datblygu gyrfa ar gael i helpu cyfranogwyr i ennill y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu eu gyrfa yn effeithiol.
|
MENYWOD YSBRYDOLEDIGYn yr adran hon rydym yn cynnwys menywod ysbrydoledig sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg, gwyddorau meddygol ac iechyd yng Nghymru.
|