Nod STEM Learning yw darparu addysg STEM o safon fyd-eang ar gyfer holl bobl ifanc y DU. Gyda chefnogaeth partneriaeth unigryw o ymddiriedolaethau elusennol y Llywodraeth a chyflogwyr, rydym yn ymroddedig i gynyddu ymgysylltiad a chyrhaeddiad pobl ifanc mewn pynciau a gyrfaoedd STEM. Rydym yn gweithio gyda:
Pobl ifanc o bob cefndir i feddu ar y dyhead, gwybodaeth a sgiliau i lwyddo, gyda mwy yn symud i mewn i yrfaoedd yn ymwneud â STEM; cyflogwyr i gael mynediad at bobl wybodus, ddoniog gyda sgiliau STEM cryf; athrawon pynciau STEM i ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiadau’n barhaus, gan uchafu eu heffaith a’u bodlonrwydd yn eu swydd; a theuluoedd a chymunedau i adnabod gwerth STEM i bobl ifanc, gan eu hannog a’u cefnogi yn eu hastudiaethau a gyrfaoedd ym maes STEM. |
Prifysgol Caerdydd sy’n cynnal Science Made Simple. Mae’n fenter gymdeithasol gyda brwdfrydedd am wyddoniaeth a phopeth sy’n dod law yn llaw â hynny! Ein nod yw rhannu ein brwdfrydedd trwy gynnig detholiad o brofiadau ysbrydoledig ac addysgol sydd wedi’u teilwra ar gyfer ysgolion, gwyliau, cynulleidfaoedd hŷn a’r cyhoedd.
|
Nod Young Engineers yw ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn peirianneg.
|
Nod The National Centre for Excellence in the Teaching of Mathematics yw cefnogi ac annog datblygiad proffesiynol parhaus ym maes mathemateg ar gyfer athrawon mathemateg ym mhob cyfnod.
|
First Campus is a partnership between higher education institutions, further education colleges and schools in South East Wales. Through collaboration they run a series of exciting and challenging activities for a wide cross-section of pupils who are at key stages 2, 3 and 4.
|
Mae Hands on Science yn ymwneud ag annog pobl ifanc ledled Cymru i astudio pynciau yn ymwneud â Gwyddoniaeth, Mathemateg ac Iechyd y tu hwnt i lefel TGAU. Mae Hands on Science yn bartneriaeth o sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach a darparwyr addysg eraill ledled Cymru. Mae Hands on Science yn brosiect Cymru-gyfan a ariannir gan HEFCW sy’n gweithio mewn partneriaeth â Cholegau Cymru, prifysgolion, sefydliadau addysg uwch eraill a darparwyr allano. Mae’n rhan o fenter Ymgyrraedd yn Ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru. Prif nod y prosiect yw hyrwyddo, ennyn diddordeb a chynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau yn ymwneud â Gwyddoniaeth, Mathemateg ac Iechyd y tu hwnt i lefel TGAU ac ymlaen i addysg bellach ac uwch.
|
Mae The Institute of Physics yn elusen wyddonol gyda’r nod o gynyddu’r ymarfer, dealltwriaeth a defnydd o ffiseg. Mae ganddo dros 36,000 o aelodau ac mae’n gyfathrebwr blaenllaw o wyddoniaeth yn ymwneud â ffiseg i bob cynulleidfa, o arbenigwyr i’r llywodraeth a’r cyhoedd yn gyffredinol.
|
Nod Girls Who Code yw cau’r bwlch rhwng y rhywiau ym maes technoleg ac i newid y ddelwedd o ran golwg a rôl rhaglennwr. |
Mae See Science wedi ymrwymo at gefnogi cyflwyniad STEM ar draws Cymru gyfan i ysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a grwpiau cymunedol. Mae’n cynnig amrediad o gynnyrch a gwasanaethau i gefnogi dysgu ac addysgu mewn cyd-destun byd go iawn.
|
Mae The WISE campaign yn cydweithio gyda diwydiant ac addysg i annog merched o oedran ysgol i astudio cyrsiau STEM neu rhai ym maes adeiladu, ac i symud i gyrsiau cysylltiedig.
|
Caiff Engineering Team Challenge ei redeg gan The Institute of Engineers mewn nifer o leoliadau ledled De Cymru. Mae’n darparu diwrnod o beirianneg ymarferol a gweithio mewn tîm i ddisgyblion uwchradd. |
Mae The National Digital Exploitation Centre yn brosiect a ariannwyd ac a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Thales a Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnig hyfforddiant mewn arferion digidol, seiber-ddiogelwch ac ymchwil. Caiff ei Ganolfan Addysg Ddigidol ei harwain gan Brifysgol De Cymru sy’n caniatáu i unigolion, ysgolion a busnesau bach ffynnu mewn economi ddigidol.
|
Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn rhoi myfyrwyr israddedig wedi’u hyfforddi o bum prifysgol yng Nghymru mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru i fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n garedig gan CCAUC yn rhan o’u menter dros “Wella’r genhadaeth ddinesig ac ymgysylltu cymunedol”. Nod y prosiect yw codi proffil Ffiseg Safon Uwch, yn benodol ymhlith merched, ond hefyd rhoi’r cyfle i fyfyrwyr prifysgol gael profiad yn yr ystafell ddosbarth.
|