
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau i ysgolion ac athrawon i ategu darpariaeth addysg ffurfiol yng Nghymru a gweithio ' n helaeth gyda chynulleidfaoedd o blith y cyhoedd.

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS) yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd flaenllaw dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru. Yn buddio o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), bydd KESS yn cefnogi prosiectau ymchwil cydweithredol (Meistr Ymchwil a PhD) gyda phartneriaid allanol yn seiliedig yn ardal Gydgyfeirio Cymru. Bydd KESS yn rhedeg rhwng 2009 a 2014 ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr.

NESTA yw’r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau – corff annibynnol gyda’r nod o wneud y DU yn fwy arloesol.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnig amrediad o gyrsiau i gefnogi ymchwil STEM gyda ffocws ar iechyd.

Mae rhaglen 'Goleufa Cymru' The National Co-ordinating Centre for Public Engagement's yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, Techniquest, Amgueddfa Cymru a BBC Cymru Wales.

Nod Girls Who Code yw cau’r bwlch rhwng y rhywiau ym maes technoleg ac i newid y ddelwedd o ran golwg a rôl rhaglennwr.

Mae See Science wedi ymrwymo at gefnogi cyflwyniad STEM ar draws Cymru gyfan i ysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a grwpiau cymunedol. Mae’n cynnig amrediad o gynnyrch a gwasanaethau i gefnogi dysgu ac addysgu mewn cyd-destun byd go iawn.

Mae The WISE campaign yn cydweithio gyda diwydiant ac addysg i annog merched o oedran ysgol i astudio cyrsiau STEM neu rhai ym maes adeiladu, ac i symud i gyrsiau cysylltiedig.

Mae The National Digital Exploitation Centre yn brosiect a ariannwyd ac a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Thales a Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnig hyfforddiant mewn arferion digidol, seiber-ddiogelwch ac ymchwil. Caiff ei Ganolfan Addysg Ddigidol ei harwain gan Brifysgol De Cymru sy’n caniatáu i unigolion, ysgolion a busnesau bach ffynnu mewn economi ddigidol.

Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn rhoi myfyrwyr israddedig wedi’u hyfforddi o bum prifysgol yng Nghymru mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru i fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n garedig gan CCAUC yn rhan o’u menter dros “Wella’r genhadaeth ddinesig ac ymgysylltu cymunedol”. Nod y prosiect yw codi proffil Ffiseg Safon Uwch, yn benodol ymhlith merched, ond hefyd rhoi’r cyfle i fyfyrwyr prifysgol gael profiad yn yr ystafell ddosbarth.