Mae Menywod Cymru ym meysydd STEM yn gweithio gyda’r partneriaid AU Ymlaen a Chwarae Teg i ddarparu cefnogaeth i brifysgolion, colegau a chyflogwyr. Mae rhaglenni hyfforddi a datblygu gyrfa ar gael i helpu cyfranogwyr i ennill y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu eu gyrfa yn effeithiol.
PRIFYSGOLION A CHOLEGAU
Mae Advance HE yn sefydliad aelodau sefydliadol, gyda phob Prifysgol a rhai Colegau Addysg Bellach yng Nghymru yn aelod. Rydym wedi ymrwymo at helpu i lunio dyfodol addysg uwch.
|
O ran cefnogi WUMS, mae Advance HE yn darparu rhaglenni ar gyfer menywod sy’n arwain ym maes Addysg Uwch, megis:
Rydym hefyd yn gwneud ymchwil ac mae cyhoeddiadau ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael ar ein porth ymchwil i staff sefydliadau sy’n aelodau Advance HE.
Trwy ein gwaith dysgu ac addysgu, rydym yn cefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Cwricwlwm, ac yn cefnogi mentrau i wella llesiant myfyrwyr a staff.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.advance-he.ac.uk. Yng Nghymru, eich cyswllt yw gary.reed@advance-he.ac.uk
- Aurora: ar gyfer menywod sydd ar fin cychwyn ar eu taith arwain
- Chwalu mythau Cyllid ar gyfer menywod sy’n arwain sydd eisiau datblygu eu sgiliau rheoli cyllid
- Materion Arwain: ar gyfer menywod sy’n uwch reolwyr sy’n dyheu at ymuno â’u huwch dîm rheoli
- Menywod ar Fyrddau: ar gyfer menywod sy’n arwain sy’n ystyried gwneud cais am rôl fel llywodraethwr ac sydd eisiau cael mwy o wybodaeth am y rôl
Rydym hefyd yn gwneud ymchwil ac mae cyhoeddiadau ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael ar ein porth ymchwil i staff sefydliadau sy’n aelodau Advance HE.
Trwy ein gwaith dysgu ac addysgu, rydym yn cefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Cwricwlwm, ac yn cefnogi mentrau i wella llesiant myfyrwyr a staff.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.advance-he.ac.uk. Yng Nghymru, eich cyswllt yw gary.reed@advance-he.ac.uk
Diwydiant
Mae prif fudiad Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, Chwarae Teg, wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru ers 1992. Maen nhw’n gweithio gyda busnesau i sicrhau bod y busnesau’n buddio o amrywiaeth trwy eu gweithlu. Maen nhw’n gweithio gyda menywod i ddarparu rhaglenni datblygu gyrfa i’w cefnogi i mewn i faes arwain a rheoli.
|
Rhaglenni Datblygu Gyrfa: https://chwaraeteg.com/prosiectau/cenedl-hyblyg2-rhaglen-fusnes/
Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, mae Cenedl Hyblyg 2 yn cynnig cyfleoedd i fenywod gymryd rhan mewn rhaglen datblygu gyrfa gynhwysfawr, wedi’i hariannu’n llawn.
Datblygwyd y rhaglen i helpu cyfranogwyr i ennill y sgiliau, hyder a gwybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen yn effeithiol yn eu gyrfaoedd.
Manylion y Rhaglen
Dod i’ch adnabod chi – adnabod eich amcanion, rhwystrau, sgiliau, galluoedd a dysg bersonol.
Cyngor, cefnogaeth ac arweiniad unigol gan ein tîm ymroddedig a phrofiadol.
hyfforddiant i ennill cymhwyster o’r byd-enwog Institute of Leadership & Management (ILM).
Dysg gryno ychwanegol i ennill y wybodaeth, profiad a hyder i gyrraedd eich potensial.
Cyfleoedd i gwrdd, rhannu a dysgu gan fenywod ysbrydoledig yng Nghymru.
Cyflogwr Chwarae Teg: https://chwaraeteg.com/prosiectau/cyflogwr-chwarae-teg/
Dewch yn Gyflogwr Chwarae Teg a harneisio’r pŵer i gael gweithlu gwirioneddol amrywiol. Mae tystiolaeth bod amrywiaeth yn cynyddu twf a phroffidioldeb mewn cwmnïau ledled Cymru a bod y cwmnïau hyn yn dod yn gyflogwr y byddai nifer o bobl yn dewis. Mae Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n annog busnesau i fynd i’r afael â materion o anghydraddoldeb yn y gweithle.
Mae’r gyfres yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
Ble ydych chi nawr – meincnod a Chynllun Gweithredu Cyflogwr Chwarae Teg
Arweiniad trwy daith Cyflogwr Chwarae Teg
Mynediad at adroddiadau arferion gorau, diwrnodau ymgynghori a gweithdai
Gwobrwyo eich llwyddiant – Cydnabyddiaeth o fod yn Gyflogwr Chwarae Teg, Fforwm Arweinwyr a Gwobrau Cwmni’r Flwyddyn Womenspire
I gychwyn eich taith fel Cyflogwr Chwarae Teg, byddwn yn cwrdd â chi i drafod sut gallwn weithio gyda’ch sefydliad.

Hyfforddiant
Ydych chi’n meddwl am ddilyniant eich gyrfa neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant? A oes yna broblem yn y gweithle yr hoffech ei oresgyn neu hoffech chi archwilio eich opsiynau gyrfa yn y dyfodol? Os felly, gallai coetsio eich helpu chi.
Beth yw coetsio?
Mae coetsio yn eich helpu i fod y gorau y gallwch chi trwy eich helpu i feddwl trwy eich opsiynau ac i lunio cynlluniau ar gyfer eich dyfodol. Nid yw hyfforddwyr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi; maen nhw’n gofyn cwestiynau er mwyn i chi allu ystyried eich opsiynau.
Mae Canolfan Coetsio Cymru, wedi'i leoli o fewn adran Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru, yn cynnig hyfforddwyr hynod effeithiol, profedig sydd, ar y cyd, yn adnabod bod coetsio yn arf allweddol ym maes rheoli ac arwain sy'n galluogi i gyflogeion wireddu eu potensial. Mae amryw gwmnïau mewn gwahanol sectorau ac o wahanol feintiau yn defnyddio coetsio ac yn cael budd sylweddol o wneud hynny yn eu gweithleoedd.
Pwy allai fuddio o goetsio?
Mae hyfforddwyr proffesiynol y Ganolfan ar gael ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu’n astudio ym meysydd STEM. Mae’r hyfforddwyr yn gweithio ar bob lefel o uwch reolwyr ac arweinwyr i’r sawl sy’n megis cychwyn yn eu gyrfaoedd.
Hyfforddwyr cymwys
Mae ein hyfforddwyr oll yn gymwys i safon ILM Lefel 7 Uwch Goetsio a Mentora ym maes Arwain neu wedi ennill cymhwyster cyfwerth. Maen nhw'n cymryd rhan mewn Setiau Dysgu Gweithredol ac yn derbyn coetsio gan gyfoedion neu oruchwyliaeth coetsio. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel gan unigolion hynod frwdfrydig.
Y broses goetsio
Mae coetsio’n darparu man diogel lle byddwch yn cael eich annog i adlewyrchu ar sgiliau a galluoedd, problemau a datrysiadau ac amcanion at y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Sharon ar sharon.mott@southwales.ac.uk.