Mae prif fudiad Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, Chwarae Teg, wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru ers 1992. Maen nhw’n gweithio gyda busnesau i sicrhau bod y busnesau’n buddio o amrywiaeth trwy eu gweithlu. Maen nhw’n gweithio gyda menywod i ddarparu rhaglenni datblygu gyrfa i’w cefnogi i mewn i faes arwain a rheoli.
Rhaglenni Datblygu Gyrfa: https://www.agilenation2.org.uk/for-women/
Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, mae Cenedl Hyblyg 2 yn cynnig cyfleoedd i fenywod gymryd rhan mewn rhaglen datblygu gyrfa gynhwysfawr, wedi’i hariannu’n llawn.
Datblygwyd y rhaglen i helpu cyfranogwyr i ennill y sgiliau, hyder a gwybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen yn effeithiol yn eu gyrfaoedd.
Manylion y Rhaglen
Dod i’ch adnabod chi – adnabod eich amcanion, rhwystrau, sgiliau, galluoedd a dysg bersonol.
Cyngor, cefnogaeth ac arweiniad unigol gan ein tîm ymroddedig a phrofiadol.
hyfforddiant i ennill cymhwyster o’r byd-enwog Institute of Leadership & Management (ILM).
Dysg gryno ychwanegol i ennill y wybodaeth, profiad a hyder i gyrraedd eich potensial.
Cyfleoedd i gwrdd, rhannu a dysgu gan fenywod ysbrydoledig yng Nghymru.
Cyflogwr Chwarae Teg: https://chwaraeteg.com/prosiectau/cyflogwr-chwarae-teg/
Dewch yn Gyflogwr Chwarae Teg a harneisio’r pŵer i gael gweithlu gwirioneddol amrywiol. Mae tystiolaeth bod amrywiaeth yn cynyddu twf a phroffidioldeb mewn cwmnïau ledled Cymru a bod y cwmnïau hyn yn dod yn gyflogwr y byddai nifer o bobl yn dewis. Mae Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n annog busnesau i fynd i’r afael â materion o anghydraddoldeb yn y gweithle.
Mae’r gyfres yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
Ble ydych chi nawr – meincnod a Chynllun Gweithredu Cyflogwr Chwarae Teg
Arweiniad trwy daith Cyflogwr Chwarae Teg
Mynediad at adroddiadau arferion gorau, diwrnodau ymgynghori a gweithdai
Gwobrwyo eich llwyddiant – Cydnabyddiaeth o fod yn Gyflogwr Chwarae Teg, Fforwm Arweinwyr a Gwobrau Cwmni’r Flwyddyn Womenspire
I gychwyn eich taith fel Cyflogwr Chwarae Teg, byddwn yn cwrdd â chi i drafod sut gallwn weithio gyda’ch sefydliad.